Hwb Iechyd
Oriau Agor | Apwyntiadau | Cysylltu â ni
Clinig Teithio
Os bydd angen unrhyw frechiadau arnoch sy'n berthnasol i deithio tramor, bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda nyrs y practis i drafod eich trefniadau teithio. Bydd hyn yn cynnwys pa wledydd ac ardaloedd o fewn y gwledydd rydych chi'n ymweld â nhw i weld pa frechiadau sydd eu hangen arnoch chi. Yn y dolenni isod, mae rhagor o wybodaeth am wledydd a'r brechiadau angenrheidiol:
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Mae'n bwysig trefnu'r apwyntiad cyntaf gynted â phosib - o leiaf 6 wythnos cyn i chi deithio. Bydd angen trefnu ail apwyntiad gyda nyrs y practis i gael y brechiadau. Mae angen archebu'r brechiadau hyn oherwydd nad ydyn nhw'n frechiadau stoc. Mae angen trefnu bod eich ail apwyntiad o leiaf 2 wythnos cyn i chi deithio er mwyn rhoi cyfle i'r brechiadau weithio.