Hwb Iechyd
Oriau Agor | Apwyntiadau | Cysylltu â ni
Gwasanaethau Nyrsys Ardal
Y Prif Nodau
Mae Tîm y Nyrsys Ardal yn asesu, rhagnodi a darparu gofal nyrsio medrus i gadw cleifion yn eu cartrefi eu hunain neu mewn llety preswyl. Eu nod yw dysgu pobl i ofalu amdanyn nhw eu hunain a hyrwyddo hynny lle y bo'n bosib gan arwain at annibyniaeth bersonol.
Strwythur y Gwasanaeth
Mae Timau Nyrsys Ardal yn cael eu harwain gan Nyrs Ardal sydd â chymwysterau arbennig i asesu eich anghenion.
Mae'r tîm yn cynnwys nyrsys cymwys a Chynorthwywyr Gofal Iechyd sydd wedi cael hyfforddiant. Mae'n bosib hefyd y byddwch yn cael gofal gan nyrsys o dan hyfforddiant a fydd o dan oruchwyliaeth ac arweiniad eich Nyrs Ardal.
Ein Tîm Nyrsys Ardal
Mae ein Tîm Nyrsys wedi'i leoli yng Nghanolfan Goffa Ffestiniog ac maen nhw'n gweithio'n agos â'r practis. Maen nhw'n darparu gofal parhaol i bobl o bob oed yn y gymuned yn ogystal â phobl yn y cartrefi gofal yn Llan Ffestiniog.
Mae'r Tîm Nyrsys yn cynnal Clinig Hyfywedd Meinwe yn y Ganolfan Iechyd bob diwrnod gwaith rhwng 11:30 a 12:30p.m. drwy apwyntiad. Gallwch gysylltu â nhw ar 01766 832 573.
Yng Nghanolfan Goffa Ffestiniog hefyd mae'r Rheolwr Gofal Clefydau Cronig a'r Tîm Gofal Canolraddol. Mae modd cysylltu â'r rhain ar 01766 830 225.
We use cookies to help provide you with the best possible online experience.
By using this site, you agree that we may store and access cookies on your device. Find out about our cookies.
Functional Cookies
Functional Cookies are enabled by default at all times so that we can save your preferences for cookie settings and ensure site works and delivers best experience.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.