Hwb Iechyd
Oriau Agor | Apwyntiadau | Cysylltu â ni
Gwasanaethau rydym yn eu darparu
Mae ein Tîm Nyrsio ar gael i gynnal profion gwaed, profion ceg y groth, brechiadau a phrofion pwysedd gwaed. Mae'r nyrsys yn cyfrannu hefyd at amrywiol glinigau i gynnal archwiliadau iechyd a rheoli afiechydon cronig.
Nyrs Glinigol Arweiniol
Mae ein Nyrs Glinigol Arweiniol yn gallu rhoi diagnosis, trin a rhoi presgripsiwn ar gyfer cyflyrau penodol e.e. dolur gwddw a heintiau ar y frest:
- problemau clustiau, trwyn a gwddf
- problemau anadlu
- heintiau'r llwybr wrinol
- poenau'r abdomen
- brechau
Mae ein Nyrs Arweiniol yn gallu ymweld â chartrefi ac ymweld â chartrefi nyrsio.
Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol
Mae ein Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol yn gallu asesu a rhoi diagnosis ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar y cyhyrau, esgyrn a chymalau.
Mewn partneriaeth â'r claf, bydd y ffisiotherapydd yn creu cynllun triniaeth ac yn cyfeirio'r claf at wasanaethau/gweithwyr proffesiynol eraill os yw'n briodol.
Fferyllydd Rhagnodi Annibynnol
Mae ein Fferyllydd yn arbenigwr ar feddyginiaethau ac mae'n gallu helpu i leddfu unrhyw bryderon a all fod gennych am eich meddyginiaeth, e.e. sgil-effeithiau neu drafferthion wrth gymryd eich meddyginiaeth.
Bydd hi'n gallu eich gweld hefyd ar gyfer yr adolygiad blynyddol o'ch meddyginiaethau, a helpu chi i reoli cyflyrau cronig.
Mae'r practis yn cynnal sawl clinig i reoli clefydau a hybu iechyd, ac mae angen gwneud apwyntiad ar gyfer y rhain
- Rheoli Asthma
- Rheoli Diabetes
- Atal Clefydau Coronaidd
- Iechyd Plant ac Imiwneiddiadau
Ffordd o fyw
Mae ein Nyrsys yn gallu rhoi cyngor am ysmygu, pwysau, ymarfer corff, deiet ac alcohol.
Llawdriniaethau bach
Mae modd trefnu ymlaen llaw am lawdriniaethau bach. Siaradwch â'ch meddyg am hyn.
Clinigau Brechu Plant
Nyrsys y Practis sy'n cynnal y clinigau hyn. Cysylltwch â'ch practis lleol i gael manylion y dyddiau a'r amseroedd
Imiwneiddio Oedolion
Os oes angen i chi gael imiwneiddiadau ar gyfer tetanws neu bolio, trefnwch apwyntiad gyda nyrsys y practis.
Brechiadau ar gyfer Teithio
Mae modd trefnu apwyntiad gyda nyrsys y practis a fydd yn cynnig cyngor meddygol i chi ynghylch teithio a brechiadau lle y bo hynny'n briodol. Cynlluniwch ymlaen llaw – peidiwch â gadael y brechu tan y munud olaf.
Brechiadau Ffliw
Bob gaeaf, yn cychwyn ar ddechrau mis Hydref, bydd y practis yn cynnal clinig imiwneiddio rhag y ffliw ym mhob meddygfa. Holwch staff y dderbynfa neu nyrs y practis am ragor o wybodaeth.
Profion Ceg y Groth
Fe gewch nodyn i'ch atgoffa pan fydd angen i chi gael prawf ceg y groth. Ond os nad ydych chi'n siŵr, gofynnwch yn y dderbynfa.
Gwasanaethau eraill sydd ar gael yn Hwb Iechyd
Mae rhai o'r gwasanaethau hyn yn sesiynau galw-heibio, clinigau dan arweiniad meddygon ymgynghorol, grwpiau neu glinigau cymunedol. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, holwch staff y dderbynfa
Cymdeithas Alzheimer |
Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol |
Ymweliadau Iechyd |
|
Gwasanaeth Bydwreigiaeth |
Cynllunio Teulu |
Pediatreg Cymunedol |
Camddefnyddio Sylweddau |
Iechyd Meddwl Oedolion |
Gwasanaethau Anabledd Dysgu |
Gwasanaeth Dydd Dementia |
Grŵp Cymorth i Ofalwyr |
Cwnsela |
Gofal Lliniarol |
Ffisiotherapi |
Orthoteg |
Deieteg |
Therapi Lleferydd ac Iaith |
Clinig Awdioleg |
Offthalmoleg |
Clinig Rhithwir |
Clinig Llygaid Orthoptig |
Clinig Methiant y Galon |
Clinig Dermatoleg |
Clinig Anadlu |
Clinig Rhiwmatoleg |
Gwasanaethau Cymdeithasol |
Cyngor ar Bopeth |
|
Grŵp Tylino Babanod |
We use cookies to help provide you with the best possible online experience.
By using this site, you agree that we may store and access cookies on your device. Cookie policy.
Cookie settings.
Functional Cookies
Functional Cookies are enabled by default at all times so that we can save your preferences for cookie settings and ensure site works and delivers best experience.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.