Hwb Iechyd
Oriau Agor | Apwyntiadau | Cysylltu â ni
Mewn profedigaeth
Pan fydd rhywun yn marw, mae'n rhaid gwneud tri pheth yn y dyddiau cyntaf;
- Cael tystysgrif feddygol gan eich meddyg teulu neu feddyg yr ysbyty (mae angen hon er mwyn cofrestru'r farwolaeth)
- Cofrestru'r farwolaeth o fewn 5 diwrnod (8 diwrnod yn yr Alban). Fe gewch chi'r dogfennau angenrheidiol ar gyfer yr angladd wedyn.
- Gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer yr angladd.
Cofrestru'r farwolaeth
Os bydd y crwner (neu'r Procuradur Ffisgal yn yr Alban) yn cael gwybod am y farwolaeth, mae'n rhaid iddyn nhw roi caniatâd cyn cofrestru'r farwolaeth.
Gallwch chi gofrestru'r farwolaeth os ydych chi'n perthyn, yn dyst i'r farwolaeth, yn weinyddwr mewn ysbyty neu os chi sy'n gwneud y trefniadau gyda'r trefnwyr angladdau .
Gallwch chi ddefnyddio'r dudalen ‘Cofrestru Marwolaeth’ ar y wefan gov.uk a fydd yn eich arwain drwy'r broses. Bydd hyn hefyd yn esbonio'r broses gofrestru ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Trefnu'r angladd
Fel arfer, dim ond ar ôl i'r farwolaeth gael ei chofrestru mae modd cynnal yr angladd. Mae'r rhan fwyaf yn defnyddio trefnwyr angladdau, er mae modd i chi drefnu'r angladd eich hun.
Trefnwyr angladdau
Dewiswch drefnydd angladdau sy'n aelod o un o'r canlynol:
- National Association of Funeral Directors
- National Federation of Funeral Directors
- Society of Allied and Independent Funeral Directors
Mae gan y sefydliadau hyn godau ymarfer, ac mae'n rhaid iddyn nhw roi rhestr brisiau i chi os byddwch yn gofyn am un.
Mae gan rai cynghorau lleol eu gwasanaethau angladd eu hunain, er enghraifft ar gyfer claddu mewn seremonïau heb fod yn grefyddol. Mae Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain yn gallu helpu hefyd gydag angladdau heb fod yn rhai crefyddol.
Trefnu'r angladd eich hun
Cysylltwch ag adran Mynwentydd ac Amlosgfeydd eich cyngor lleol i drefnu'r angladd eich hun.
Costau angladd
Mae costau angladd yn gallu cynnwys:
- ffioedd y trefnwyr angladdau
- pethau mae'r trefnwyr angladdau yn eu talu ar eich rhan (a elwir yn ‘alldaliadau’ neu ‘costau trydydd parti’), er enghraifft, ffioedd yr amlosgfa neu'r fynwent, neu gyhoeddiad am y farwolaeth mewn papur newydd
- ffioedd claddu neu amlosgi'r awdurdod lleol
Mae'n bosib y bydd trefnwyr angladdau'n rhestru'r holl gostau hyn yn eu dyfynbrisiau.
I gael cyngor annibynnol am ddim am faterion yn ymwneud â phrofedigaeth, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn lastingpost.com.
MYNEGAI - Canolfan Hunangymorth
Gwybodaeth Hunangymorth
- Pharmacy First
- A - Z Iechyd
- Byw'n Dda
- Dewis Doeth
- Cyfeirio MSK
- Iechyd yn y Gaeaf
- Cymorth i Roi'r Gorau i Ysmygu
- Heneiddio'n Dda
- Mewn profedigaeth
Archwiliadau Iechyd