Hwb Iechyd
Oriau Agor | Apwyntiadau | Cysylltu â ni
Profion a Chanlyniadau
Canlyniadau profion ac archwiliadau
Os ydych chi'n ffonio am ganlyniadau, gwnewch hynny rhwng 13:00 a 14:00. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ddelio â galwadau brys yn y bore a sicrhau bod y canlyniadau ar gael cyn i chi ffonio.
Profion Gwaed
Ar gyfer prawf gwaed, bydd sampl o waed yn cael ei thynnu i'w phrofi mewn labordy. Mae profion gwaed yn cael eu defnyddio mewn amrywiol ffyrdd a dyma un o'r mathau mwyaf cyffredin o brofion meddygol. Er enghraifft, mae modd defnyddio prawf gwaed i:
- asesu cyflwr cyffredinol eich iechyd
- cadarnhau a oes haint bacteria neu feirws
- gweld sut mae organau penodol, fel yr iau a'r arennau, yn gweithio
Fel arfer, mewn prawf gwaed, bydd person tynnu gwaed yn tynnu sampl gwaed o wythïen yn eich braich. Y lle arferol i dynnu gwaed yw tu mewn i'r benelin neu'r arddwrn, lle mae'r gwythiennau'n eithaf agos at y wyneb. Gyda phlant, tynnir samplau gwaed o gefn y llaw fel arfer. Bydd hufen arbennig yn cael ei roi fel anaesthetig ar law'r plentyn cyn tynnu'r sampl.
Mae rhagor o wybodaeth am brofion gwaed, eu diben a sut maen nhw'n cael eu gwneud ar wefan y GIG
Os bydd y meddyg neu'r nyrs wedi gofyn i chi roi sampl patholeg e.e. wrin, carthion, poer, rhaid gadael y rhain yn y dderbynfa cyn 11.00am, dydd Llun - dydd Gwener.
Pelydr-X
Mae pelydr-X yn brawf diagnostig sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth i archwilio tu mewn i'r corff. Mae pelydrau-X yn ffordd effeithiol iawn o ganfod problemau gydag esgyrn, fel toriadau esgyrn. Hefyd, bydd y prawf yma yn aml iawn yn gallu gweld problemau gyda meinwe meddwl, fel niwmonia neu ganser y fron.
Os byddwch yn cael prawf pelydr-X, gofynnir i chi orwedd ar fwrdd neu sefyll yn erbyn arwyneb fel bod y rhan o'r corff sy'n cael y prawf rhwng tiwb y pelydr-X a'r plât ffotograffig.
Fel arfer, radiograffydd sy'n gwneud y prawf yma. Mae radiograffydd yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn defnyddio technoleg delweddu, fel pelydrau-X a sganwyr uwchsain.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y GIG am brofion pelydr-x, sut maen nhw'n cael eu gwneud, eu swyddogaeth a'r risgiau.
We use cookies to help provide you with the best possible online experience.
By using this site, you agree that we may store and access cookies on your device. Find out about our cookies.
Functional Cookies
Functional Cookies are enabled by default at all times so that we can save your preferences for cookie settings and ensure site works and delivers best experience.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.